Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 5 Mawrth 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.35 - 12.05 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Dafydd Elis-Thomas (Cadeirydd) Mick Antoniw Keith Davies Russell George Llyr Gruffydd Julie James Julie Morgan William Powell Antoinette Sandbach |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Alun Davies, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Christianne Glossop, Y Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru Matthew Quinn, Llywodraeth Cymru Andrew Slade, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Elfyn Henderson (Ymchwilydd) Martin Jennings (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Joyce Watson. Roedd Keith Davies yn bresennol fel dirprwy.
1.2 Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad mewn ymateb i adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.
2 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Sesiwn graffu ariannol
2.1 Ymatebodd y Gweinidog a'i swyddogion i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am y cynllun iawndal ar gyfer y diwydiant pysgota yn sgîl difrod y stormydd diweddar.
3 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Sesiwn graffu gyffredinol
3.1 Ymatebodd Gweinidog a'i swyddogion i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am nifer y contractau Glastir a ddosbarthwyd i ffermwyr erbyn 1 Ionawr 2014, ac am nifer y contractau a ddychwelwyd hyd yn hyn.
3.3 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu manylion am sylwadau'r Pwyllgor ynghylch casglu deunydd ailgylchu i fwrdd polisi'r Gweinidog ar ailgylchu.
4 Papurau i'w nodi
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Ymateb i’r argymhellion yn adroddiad rhywogaethau goresgynnol estron y pwyllgor
4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Y wybodaeth ddiweddar ynghylch diogelu arfordir Cymru
4.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.